Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Tachwedd 2011
Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
ar gyfer y Bil Diogelu Rhyddidau
1. Ar 15 Tachwedd 2011, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Diogelu Rhyddidau i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, er mwyn iddo ystyried y darpariaethau perthnasol ac adrodd yn ôl arnynt.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 29.5, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol adrodd yn ôl i’r Cynulliad erbyn 24 Ionawr 2012.